Cyfartaledd hyd: 2 awrs
Amwynderau
Bwyd
Cyfeillgar i gŵn
Mae 3rd Space Kitchen & Bar yn gaffi, bwyty a bar coffi amgen yn Llandudno, sy’n gweini bwyd stryd a bwydlenni traddodiadol o bob cwr o’r byd. Mae ein décor artisan y tu mewn yn wych, wedi ei lunio o weddillion llongddrylliad lleol. Mae’n destun edmygedd yn yr ardal, ac yn ddyluniad syfrdanol a adeiladwyd â llaw.
Yn ogystal â bod yn lle gwych i fwyta ac yfed drwy gydol y dydd, mae 3rd Space yn cynnal digwyddiadau adloniant, cerddoriaeth a chomedi byw yn rheolaidd. Rydyn ni hefyd yn falch o gynnig y gwerth gorau am arian i gwsmeriaid am gynnyrch artisan lleol. Yn benodol, Cwrw crefft Wild Horse a Snowdon, y gallwch eu hyfed neu fynd gyda chi adref fel rhodd i gofio am eich ymweliad â gogledd Cymru.
Rydyn ni’n fwyty, bar a chaffi poblogaidd gyda theuluoedd a chŵn, gydag awyrgylch groesawgar a braf… a tybed wnaethon ni grybwyll ein décor cyfoes?